Mae Bwrdd Pennant yn cynnwys Dr Timothy Howel Clayton, Dermatolegydd Ymgynghorol, Dr Darren Cornish Ymarferydd Cyffredinol (GP), a Mrs Sioned Thomas Rheolwr Practis y GIG. Ynghyd â’n cydweithwyr meddygol cydweithredol, rydym wedi uno ein profiad i sefydlu'r clinig meddygol preifat hwn. Mae ein clinig preifat yn rhoi mynediad hawdd i gleifion yng ngogledd Cymru at wasanaeth meddygol personol a phroffesiynol, a mynediad uniongyrchol at ymgynghorwyr arbenigol.
Rydym ni’n cynnig apwyntiadau ymarferwyr cyffredinol (GP) ar gyfer unrhyw gyflwr meddygol, gan gynnwys archwiliadau meddygol a mân lawdriniaethau, a hefyd yn cynnwys apwyntiadau dermatolegol ar gyfer unrhyw glefyd a llawdriniaeth y croen. Gallwch drefnu apwyntiadau wyneb yn wyneb/ dros y ffôn / dros fideo, ac rydym ni wrthi’n gweithio ar gynyddu arbenigeddau ein tîm. Fel meddygon profiadol a gofalgar, rydym ni yma i roi digon o amser i chi drafod eich pryderon ar adeg sydd yn gyfleus i chi. Bydd eich meddyg yn eich gweld trwy eich taith iechyd a gallwch drafod sawl pryder mewn un apwyntiad. Gellir trefnu apwyntiadau hirach os oes angen.
Bydd ein Tîm Ymarfer Cyffredinol a Dermatoleg Ymgynghorol yn eich cefnogi trwy ddiagnosis, triniaeth a llawdriniaeth bosibl. Rydym ni’n angerddol dros ddarparu gofal cynnes o ansawdd trwy gydol eich taith ofal. Rydym hefyd yn darparu dadansoddiad histolegol a dilyniant cywir a chyflym o friwiau croen (skin lesions).
Nid oes angen atgyfeiriad
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi ein ffurflen gyswllt i siarad ag arbenigwr.
Dim rhestrau aros hir
Unwaith i chi rannu eich manylion ac i ni gael sgwrs, byddwn yn trefnu apwyntiad i chi.
Adolygiadau gwych gan ein cleifion
Peidiwch â chymryd ein gair ni – mae ein cleifion wrth eu bodd yn dod i PPM.
Tîm Ymroddedig
Mae ein tîm o feddygon oll yn gweithio o fewn y GIG yn ogystal â chlinig Pennant.
Rydym ni’n angerddol dros ddarparu gofal cynnes o ansawdd trwy gydol eich taith ofal
Fel meddygon profiadol a gofalgar, rydym ni yma i roi digon o amser i chi drafod eich pryderon ar adeg sydd yn gyfleus i chi. Bydd eich meddyg yn eich gweld trwy eich taith iechyd a gallwch drafod sawl pryder mewn un apwyntiad.
Mrs Sioned Thomas - Rheolwr Practis GIG
Cafodd Sioned ei geni a’i magu yn Eifionydd. Dechreuodd ei gyrfa fel ysgrifennydd cyfreithiol gyda chwmni cyfreithwyr lleol adnabyddus lle cafodd hyfforddiant ac arweiniad rhagorol gan y partneriaid a'i chydweithwyr. Yn 2001, cafodd ei chyflogi gan bractis GMS annibynnol lleol yn gweithio fel ysgrifennydd meddygol. Gyda chefnogaeth partneriaid a rheolwr practis y feddygfa, llwyddodd i ennill cymwysterau a oedd yn ei galluogi i ddod yn rheolwr practis.
Ers 2017 mae Sioned wedi’i chyflogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel Rheolwr Practis ac yn fwy diweddar, fel Rheolwr Gwasanaethau Iechyd eu practisau.
Mae’r hyfforddiant, yr arweiniad, y mentora a’r profiadau y cafodd Sioned yn ystod ei gyrfa wedi rhoi iddi’r hyder a’r wybodaeth i gyd-sefydlu Gwasanaethau Meddygol Preifat Pennant a dod yn un o’r cyfarwyddwyr.
