Apwyntiadau Ymarferydd Cyffredinol (GP) Preifat
Mae clinig Pennant yn cynnig apwyntiadau cyffredinol preifat ar gyfer pob mater iechyd y byddech fel arfer yn ymgynghori â'ch ymarferydd cyffredinol amdanynt. Mae'r apwyntiadau hyn yn para hanner awr i roi digon o amser i rannu hanes meddygol cyflawn ac i alluogi archwiliad. Ar y cyd â'r claf, bydd y meddyg yn llunio cynllun trin. Mae'r holl bresgripsiynau yn breifat, sy'n golygu y bydd yn rhaid i gleifion dalu amdanynt. Nid yw'r costau hyn yn uchel iawn, ond yn dibynnu ar y feddyginiaeth dan sylw. Gall cleifion hefyd ddewis cael eu holl apwyntiadau dilynol gyda ni'n breifat. Bydd y meddyg preifat yn gallu gofyn am brofion gwaed ac ymchwiliadau pellach yn breifat yn ogystal â rheoli'r canlyniadau hyn gyda'r claf a chynghori fel sy’n briodol. Gellir atgyfeirio at arbenigwyr pellach os oes angen hefyd.
Mae’r ymarferwyr cyffredinol preifat hefyd yn cynnal archwiliadau meddygol preifat yn amrywio o archwiliadau meddygol Nwyddau Trwm, Tacsi a Theithio. Gan fod archwiliadau meddygol mor amrywiol, cysylltwch â ni i weld os allwn ni gynnal yr archwiliad penodol hwnnw yn ein clinig.
Dr Darren Micheal Cornish
Dr Darren Micheal Cornish yw ein hymarferydd cyffredinol sydd hefyd yn gweithio llawn amser yn y GIG. Hyfforddodd Dr Cornish yn yr Iseldiroedd, ym Mhrifysgol Erasmus, Rotterdam. Ar ôl arbenigo ymhellach mewn Practis Cyffredinol, a gweithio fel ymarferydd cyffredinol, dychwelodd Dr Cornish i Gymru, lle'r oedd ei deulu yn dod yn wreiddiol. Mae gan Dr Cornish ddiddordeb arbennig mewn dermatoleg. Ers graddio fel ymarferydd cyffredinol yn 2012, yn yr Iseldiroedd ac yng Nghymru, mae Dr Cornish wedi bod yn ymarfer mewn mân lawdriniaethau gan gynnwys mân lawdriniaethau canser y croen. Mae Dr Cornish yn ddysgwr Cymraeg brwd. Mae'n cynnig gwasanaeth ar bopeth yn ymwneud ag iechyd y byddech fel arfer yn ei drafod gyda'ch ymarferydd cyffredinol.
Dr Carmen Munteanu
Mae Dr Carmen Munteanu yn un o’n hymarferwyr cyffredinol preifat sy’n arbenigo mewn Ymgynghoriadau Metabolig a Cholli Pwysau, Asesiadau Cyfansoddiad y Corff, Asesu Hir Oes a Heneiddio yn Iach, asesu briwiau croen a thynnu briwiau croen. Mae rhagor o wybodaeth yn yr adran ar Reoli Pwysau.
Dr Anna Jones
Mae Dr Anna Jones yn un o’n hymarferwyr cyffredinol preifat. Mae hi’n ymarferydd cyffredinol llawn amser sy'n bartner llawn mewn practis GMS annibynnol lleol. Yng Nghlinig Pennant mae hi’n cynnal archwiliadau meddygol (gan gynnwys ECGs), asesu briwiau croen, mân lawdriniaethau croen ac ymgynghoriadau Menywod/Dynion Iach.
Dr Lucy Mather
Mae Dr Lucy Mather yn ymarferydd cyffredinol ac yn feddyg sy’n arbenigo mewn iechyd menywod, wedi’i chofrestru â Chymdeithas Menopos Prydain, ac yn aelod o’r Gymdeithas Menopos Rhyngwladol, a’r Gyfadran Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol a Meddygaeth Ffordd o Fyw. Mae rhagor o wybodaeth yn yr adran Gwasanaeth Iechyd Hormonau Menywod a Menopos.
