Pennant Private Medical Services

Dermatolegydd

Hafan > Gwasanaethau > Dermatolegydd

Yn ein clinig newydd, rydym ni’n cynnig ystod o wasanaethau gofal iechyd preifat mewn amgylchedd hamddenol i gleifion sy'n talu eu hunain a chleifion gydag yswiriant gofal iechyd preifat.

Mae gennym apwyntiadau ar gael yn ystod oriau gwaith arferol yn ogystal â'r penwythnos gydag Ymarferwyr Cyffredinol Preifat a rhai o ymgynghorwyr ac arbenigwyr preifat gorau’r Deyrnas Unedig heb angen unrhyw atyfeiriad.

Rydym yn hynod falch fod gennym 3 Dermatolegydd Arbenigol

Dr Timothy Howel Clayton

Mae Dr Timothy Howel Clayton yn Ddermatolegydd Ymgynghorol profiadol ac arobryn sy’n ymarfer ym Manceinion. Mae wedi’i hyfforddi’n llawn mewn dermatoleg oedolion a phediatrig ac wedi’i restru ar gofrestr arbenigwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad mewn dermatoleg glinigol ac mae wedi bod yn ddermatolegydd oedolion a phediatrig ymgynghorol ers 2007.

Cafodd Tim ei enwi gan Times of London fel un o’r 100 meddyg plant gorau yn y Deyrnas Unedig, ac mae wedi cyhoeddi dros 50 o lawysgrifau ac wedi ymddangos yn rheolaidd ar BBC, ITV a rhaglenni dogfen eraill.

Mae wedi bod yn ddermatolegydd ymgynghorol yn y GIG ers 2006 ac mae’n gweithio yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Brenhinol Salford ac yn Ysbyty Plant x Brenhinol Manceinion. Mae ganddo brofiad helaeth ym mhob agwedd ar ddermatoleg feddygol a llawfeddygol

Mae ganddo deulu yng Ngogledd a De Cymru ac mae’n dysgu siarad Cymraeg.

Dr Timothy Howel Clayton

Dr Siân Hickey

Mae Dr Siân Hickey yn Ddermatolegydd Ymgynghorol profiadol iawn sy'n ymarfer yn Ysbyty St Helens. Mae hi wedi gweithio yn y GIG ers 25 mlynedd, 15 mlynedd fel Ymgynghorydd yn trin pob agwedd ar Ddermatoleg oedolion. Mae ei diddordebau yn cynnwys cyflyrau croen diniwed (benign), canser y croen a chlefydau croen llidiol fel ecsema, psoriasis, acne a rosacea. Clefyd croen organau cenhedlu menywod yw ei his-arbenigedd. Mae hi ar Gofrestr Arbenigwyr y GMC, yn aelod o Goleg Brenhinol y Meddygon, Cymdeithas Frenhinol y Dermatolegwyr a Chymdeithas Dermatoleg Gogledd Lloegr. Mae hi'n ddwyieithog a'r Gymraeg yw ei hiaith gyntaf. Cafodd ei magu yng Ngogledd Cymru ac mae ei theulu oll dal yn yr ardal.

Dr Siân Hickey

Dr Jennifer Sharif, Dermatolegydd Ymgynghorol

Mae Dr Jennifer Sharif yn Ddermatolegydd Ymgynghorol gyda swydd GIG llawn amser yn Salford. Mae hi’n darparu gofal cynhwysfawr ar draws pob agwedd ar ddermatoleg gyffredinol oedolion, gydag arbenigedd penodol mewn diagnosis a rheoli cyflyrau croen llidiol a briwiau croen diniwed.

Mae Dr Sharif hefyd yn ymgymryd â chlinigau dermatoleg pediatrig rheolaidd ac mae ganddi brofiad helaeth mewn gofalu am blant a phobl ifanc gyda chlefyd ar y croen. Mae hi’n aelod craidd o’r tîm amlddisgyblaethol ar ganser y croen (MDT) ac yn brofiadol iawn yn asesu a rheoli canserau croen.

Ochr yn ochr â’i gwaith clinigol, mae gan Dr Sharif ddiddordeb cryf mewn datblygu gwasanaeth a llywodraethiant glinigol. Roedd hi’n arfer bod yn Arweinydd Llywodraethiant Dermatoleg a hi yw Arweinydd Clinigol presennol Gwasanaeth Dermatoleg Stockport.

Mae Dr Sharif yn aelod o Gymdeithas Dermatolegwyr Prydain a Chymdeithas Dermatoleg Bediatrig a Llencyndod Prydain.

Dr Jennifer Sharif, Dermatolegydd Ymgynghorol

Dr Jonathan Bertalot BSC MBBS MRCS MCEM MRCGP DPD

Meddyg Arbenigol mewn Dermatoleg ac Ymarferydd Cyffredinol gyda Rôl Estynedig (GPwER) mewn Rheoli Briwiau Croen

Enillodd Dr Bertalot radd o Goleg Imperial, Llundain yn 2002. Hyfforddodd yn gyntaf mewn Llawfeddygaeth yn Ysbyty Prifysgol, Birmingham, a daeth yn Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon ac yn Aelod o’r Coleg Meddygaeth Frys. Yn ddiweddarach, hyfforddodd mewn Ymarfer Cyffredinol, gan ddod yn Aelod o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.

Mae wedi canolbwyntio ar gyflyrau croen ac wedi datblygu arbenigedd sylweddol ym maes asesu a rheoli briwiau croen. Treuliodd flwyddyn yn Awstralia yn ennill mwy o brofiad a hyfforddiant yn rheoli canser y croen a llawfeddygaeth croen.

Cafodd ei achredu gan Gymdeithas Dermatolegwyr Prydeinig fel Ymarferydd Cyffredinol gyda Rôl Estynedig mewn Rheoli Briwiau Croen - y cyntaf yng Nghymru i gyflawni'r achrediad hwn. Mae'n dysgu meddygon eraill yn rheolaidd ac wedi cyflwyno darlithoedd a chyrsiau mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Mae'n aelod o’r Gymdeithas Dermosgopi Ryngwladol (IDS), Cymdeithas Llawfeddygaeth Dermatolegol Prydain (BSDS) a’r Gymdeithas Llawfeddygon mewn Gofal Sylfaenol (ASPC).

Gall Dr Bertalot gynnig archwiliadau llawn ar y croen a monitro mannau du (moles) yn ogystal â llawdriniaeth i gael gwared ar lympiau cyffredin ar y croen, gan gynnwys lipomas, systiau, a thyfiannau croen diniwed. Gall hefyd dynnu llawer o ganserau croen, yn ogystal â chasewinedd (ingrowing toenails). Mae’n rhugl yn y Gymraeg ac yn hapus i ymgynghori yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Dr Jonathan Bertalot

Mr Christopher Jones

Llawfeddyg Plastig, Adluniol (Reconstructive) ac Estheteg Ymgynghorol

Mae Mr Christopher David Jones yn Llawfeddyg Plastig Pen a Gwddf Ymgynghorol yn Ysbyty Whiston yn Lerpwl, gydag ymrwymiadau ychwanegol yn Ysbyty Gwynedd, Bangor. Mae wedi'i hyfforddi ac yn brofiadol iawn wrth drin a thynnu pob math o ganserau croen cymhleth. Mae hefyd yn ymarfer fel Llawfeddyg Estheteg yn Manchester Plastic Surgery yn Altrincham ac yn arwain y gwasanaeth Llawdriniaeth Gosmetig yng Nghlinig Meddygol Preifat Pennant.

Mr Christopher Jones - Llawfeddyg Plastig, Adluniol (Reconstructive) ac Estheteg Ymgynghorol

Ffioedd

Ymgynghoriad Dermatolegydd Preifat

Apwyntiad newydd £250

Apwyntiad dilynol £200

Plant o dan 16 oed £300.

Asesiad briw (lesion) croen o £150 (gydag ymarferydd cyffredinol) £175 (gydag ymarferydd cyffredinol sydd â rôl estynedig mewn rheoli briwiau croen) £250 (gyda Dermatolegydd Ymgynghorol)

Profion Alergedd Preifat £650 (yn cynnwys 2 apwyntiad ymarferydd cyffredinol ac apwyntiad dilynol gyda Dermatolegydd)

Llawdriniaeth Croen Preifat
Mae'r gyfraith yn mynnu bod rhaid anfon pob meinwe a dynnir i'r labordai at ddibenion histoleg. Mae histoleg yn astudio meinweoedd a chelloedd o dan ficrosgop er mwyn rhoi diagnosis. Mae'r prisiau a nodir isod yn cynnwys histoleg.

Biopsi Diagnostig ‘Punch’ £575
Tynnu briw croen (nad yw’n ganser) gyda histoleg heb gau’r anaf o £575
Tynnu briw croen (nad yw’n ganser) gyda histoleg A chau’r anaf o £775
Tynnu briw croen (Amheuir i fod yn ganser) gyda histoleg A chau’r anaf gan Ymarferydd Cyffredinol o £875
Proses tynnu briw croen gymhleth (Amheuir i fod yn ganser) gyda histoleg A chau’r anaf gan Ymarferydd Cyffredinol Arbenigol o £975

Bydd y prisiau yn cael eu haddasu a'u teilwra yn seiliedig ar nifer y briwiau sy'n cael eu tynnu a pha mor gymhleth yw'r broses.

Rhewdriniaeth (Cryotherapy) Croen Preifat

Mae rhewdriniaeth ar gyfer briwiau croen yn arfer cyffredin ym myd dermatoleg. Gall fod yn driniaeth effeithiol iawn ar gyfer trin nifer o ddefaid (warts), ceratosis seborrhoig, ceratosis solar a weithiau gall fod yn fesur ategol wrth drin mân ganserau croen.

Hyperhidrosis / Atal Chwysu Gormodol gan ddefnyddio Botox (Gellir cyflawni triniaeth hyperhidrosis gyda chwistrelliadau Botox a meddyginiaethau penodol. Cyn unrhyw driniaeth, bydd yn rhaid i'r claf gael ymgynghoriad llawn gydag un ai’r Ymarferydd Cyffredinol neu'r dermatolegydd)