Ymgynghorydd Orthopedig Preifat
Mrs Studnicka-Perkin
Graddiodd Mrs Studnicka-Perkin o’r Ysgol Feddygol yng Ngwlad Pwyl a datblygu trwy Hyfforddiant Llawfeddygol Craidd a Hyfforddiant Arbenigol mewn Trawma a Llawdriniaeth Orthopedig ym Mersey Deanery gan ennill medal aur Klennerman am gyflawniadau eithriadol yn ystod y broses.
Ar ôl cwblhau arholiadau terfynol Bwrdd Llawdriniaeth Orthopedig Ewrop a Chymrodoriaeth Orthopedig Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, aeth ymlaen i ennill gradd ychwanegol mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff gan olygu ei bod yn gymwys i weithio gyda’r Timau Olympaidd.
Cwblhaodd Mrs Studnicka-Perkin y Gymrodoriaeth Aelod Uchaf (Upper Limb) arbenigol byd-enwog yn Ysbyty Wrightington yn 2023 ac mae hi bellach yn ymarfer fel Ymgynghorydd Trawma a Llawfeddygaeth Orthopedig yng Ngogledd Cymru.
Mae ei hymarfer llawfeddygol yn cynnwys trin anafiadau llaw a garddwrn a chyflyrau cronig yn cynnwys anhwylderau nerfau (syndrom twnnel y carpws, anhwylderau nerf y penelin), bys tanio, afiechyd Dupuytren (ffasciotomi nodwydd, ffasectomïau rhannol/cyflawn gan gynnwys trawsblannu croen) a chyflyrau dirywiol (pigiadau, amnewid ac asio cymalau).
Yn ogystal, mae hi’n ymwneud ag agweddau meddygol-gyfreithiol y gwaith gan ddarparu tua 80 o adroddiadau tyst arbenigol bob blwyddyn.
Ar hyn o bryd, ar wahân i fwynhau treulio amser gyda’i theulu ifanc, mae Mrs Studnicka-Perkin yn mwynhau archwilio harddwch Gogledd Cymru. Mae ei hoff chwaraeon yn cynnwys beicio mynydd, rhedeg llwybrau naturiol, sgïo ac ymarfer cryfder.
Gellir gwneud apwyntiad am ymgynghoriad cychwynnol am £250.
Llawfeddyg Ymgynghorol y Glun a’r Ben-glin
Mr. Soler Fernandez
Graddiodd Mr Soler Fernandez o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Salamanca, Sbaen. Cwblhaodd ei Hyfforddiant Llawfeddygol Sylfaenol yng Nghaint a daeth yn aelod o Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr ar ôl pasio’r arholiad MRCS(Eng.). Parhaodd i ddatblygu ei yrfa trwy ymgymryd ag ymchwil yn Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain mewn cyflyrau clun a phen-glin a arweiniodd at amrywiol gyhoeddiadau mewn cyfnodolion cydnabyddedig a adolygir gan gymheiriaid a chyflwyniadau llwyfan mewn cyfarfodydd cenedlaethol a rhyngwladol.
Cafodd hyfforddiant arbenigol mewn Trawma ac Orthopedeg yn Llundain ac ar ôl cwblhau arholiad FRCS (Trawma ac Orthopedeg) cwblhaodd Gymrodoriaeth mewn Clun a Phen-glin Sylfaenol a Chymalffurfiad Diwygio (Arthroplasty) yng Nghanolfan Orthopedeg clodfawr Nuffield, sy’n rhan o Ysbytai Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Rhydychen.
Ar ôl cyrraedd y Gofrestr Arbenigol fel Llawfeddyg Trawma ac Orthopedeg, cymerodd Mr Soler Fernandez swyddi fel Ymgynghorydd locwm yn Ysbyty Lister yn Stevenage ac yn Ysbyty Cyffredinol Bury ac Ysbyty Cyffredinol Manceinion, sydd yn rhan o Gynghrair Gofal Gogleddol Manceinion.
Ar hyn o bryd mae'n Llawfeddyg Orthopedeg Ymgynghorol parhaol y GIG yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac yn arbenigo mewn llawdriniaeth clun a phen-glin. Mae ei ystafelloedd ymgynghori preifat wedi'u lleoli yn Ysbyty Spire Murrayfield, Wirral.
Mae’n llawfeddyg ZimmerBiomet ROSA™ Robot ardystiedig.
Mae Mr Soler Fernandez yn Gymrawd o Goleg Llawfeddygon Brenhinol Lloegr, yn aelod o Gymdeithas Orthopedeg Prydain, ac yn aelod o’r Gymdeithas Cymalffurfiad Personol.
Mae apwyntiadau ar gael am ymgynghoriad cychwynnol am gost o £250.
Gwefan - Mr J Agustin Soler, FRCS (Tr&Orth)
Silver Patient Experience Award - Doctify
