Mr David Hill
Tan yn ddiweddar iawn, roedd Mr David Hill yn Ymgynghorydd ENT parhaol yn y GIG yn Ysbyty Gwynedd, swydd y cafodd ei phenodi iddi ym 2008. Cafodd ei eni yn Llundain, a graddiodd o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Llundain, lle aeth i’r Coleg Prifysgol ac Ysbyty Middlesex. Ymgymerodd â’r rhan fwyaf o'i hyfforddiant ôl-raddedig yng Ngogledd Llundain, yn ogystal ag ambell i swydd yn Ne Lloegr. Yn ogystal â gweithio yng Ngogledd Cymru a Llundain, mae wedi gweithio fel Ymgynghorydd yng Ngogledd Iwerddon, Swydd Efrog, a Chaerdydd. Mae wedi bod yn Gymrawd Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr am dros dair degawd.
Roedd hefyd yn weithgar iawn am tua deg mlynedd yn ei rôl fel academydd meddygol ym Mangor, a hynny fel goruchwyliwr ymchwil feddygol ac fel gweinyddwr cenedlaethol ar gyfer Ymchwil ENT yng Nghymru. Mae'n parhau i fynychu cynadleddau yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, mae wedi cyflwyno ei ymchwil yng nghynadleddau mawr Ewrop ddwywaith yn y pum mlynedd diwethaf, ac mae ganddo wybodaeth eang a diweddar am ENT.
Fel Ymgynghorydd yn y GIG, roedd gan Mr Hill ymarfer eang, yn cynnwys pob agwedd ar ENT, mewn oedolion, plant, a’r henoed. Mae Mr Hill yn gallu cynghori ac ymdrin â phob agwedd ar gyflyrau ENT (ac eithrio triniaeth canser), ond mae ganddo ddiddordeb penodol mewn Rhinoleg. Mae Rhinoleg yn ymwneud ag anhwylderau’r trwyn, gan gynnwys fel rhwystr yn y llwybr anadlu, fel organ arogli, ac fel safle alergedd trwynol (clefyd y gwair a chyflyrau tebyg) a pholypsau llidiol y trwyn. Efallai y bydd rhai cleifion angen sganiau CT neu MRI i ymchwilio ymhellach, a gellir trefnu, egluro, a rhannu'r rhain gyda'r claf.
Yn ogystal â'r trwyn, mae Mr Hill yn gallu rhoi asesiad arbenigol o symptomau'r tonsiliau, y gwddf (neck and throat), ac o broblemau llais a llyncu. Mae'n gallu defnyddio endosgop i edrych yn ddiogel ac yn hawdd i rannau dyfnach y trwyn a'r geg, a chael delweddau digidol y gall eu hegluro a’u rhannu gyda chleifion. Gall hefyd drefnu ac egluro archwiliadau uwchsain o lympiau gwddf a thyroid.
Gall Mr Hill ddiagnosio a thrin y rhan fwyaf o gyflyrau’r glust, gan gynnwys lympiau ac anffurfiadau yn y glust allanol, heintiau clust, hylif canol y glust ('clust gludiog'), cholesteatoma a chyflyrau yn y glust fewnol fel byddardod, pendro a thinitws. Bydd angen prawf clyw ar y mwyafrif, ond nid pob un, o'r cleifion â symptomau clust, a gall y claf drefnu hwn gyda chymorth y clinig. Gellir cynnal rhai profion clust yn y clinig hefyd.
Mae Mr Hill wedi dysgu Cymraeg i lefel sgwrsio dda, a gall gynnal ymgynghoriadau yn eich dewis iaith. Mae ganddo lawer o ddiddordebau a chysylltiadau lleol, ac mae diddordeb cryf ganddo mewn clywed stori glinigol pob unigolyn.
Gellir trefnu apwyntiadau ar gyfer ymgynghoriad cychwynnol am gost o £250, a £200 am apwyntiad dilynol. Gallai costau pellach godi am ddefnyddio endosgop digidol untro, a bydd y rhain yn cael eu hegluro yn y broses archebu.
