Niwrolegydd Ymgynghorol Preifat
Brython Hywel
Rydw i’n niwrolegydd ymgynghorol ac yn niwroffisiolegydd clinigol sy’n byw yn Llanrug, Gogledd Cymru. Rydw i wedi fy nghyflogi gan Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolfan Walton yn Lerpwl. Mae fy rôl yn y GIG wedi’i rhannu rhwng Walton ac Ysbyty Gwynedd yng Ngogledd Cymru (mae Canolfan Walton yn darparu gwasanaethau niwrolegol i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr). Rydw i’n treulio tri diwrnod yr wythnos yn Walton, lle’r ydw i’n darparu clinigau dargludiad nerfau (nerve conduction) ac EMG (electromyograffeg) yn ogystal ag adrodd profion EEG (electroencephalography) ac EP (evoked potential). Un bore bob wythnos rydw i’n cynnal clinig niwroleg yn Ysbyty Gwynedd, ac ar fore arall rydw i’n gweld atgyfeiriadau i’r ward niwroleg.
Mae astudiaethau dargludiad nerfau ac electromyograffeg yn estyniad o'r archwiliad niwrolegol. Maent yn helpu gyda diagnosis o glefydau nerfau a chyhyrau. Ar gyfer astudiaethau dargludiad nerfau, rhoddir ysgogiadau trydan bach trwy’r nerfau a chaiff yr ymatebion eu cofnodi a'u dadansoddi i asesu pa mor dda mae'r nerfau yn gweithio. Mae electromyograffeg yn cynnwys rhoi nodwydd i mewn i'r cyhyrau tra ei fod yn gysylltiedig â'r peiriant dargludiad nerfau. Caiff y signal trydanol naturiol o fewn y cyhyrau ei ddadansoddi a gall roi gwybod pa mor dda mae cyflenwad y nerf i'r cyhyrau hynny yn gweithio, a rhoi cliwiau o ran p’un a yw'r broblem sylfaenol yn ymwneud â'r cyhyr ei hun (myopathi). Fel arfer, mae’r ymgynghoriad yn cynnwys hanes ac archwiliad wedi'u dilyn gan brofion dargludiad y nerfau ac yna EMG. Darperir adroddiad i'r clinigwr sy'n atgyfeirio.
Mae’r cyflyrau cyffredinol y gall y profion hyn chwilio amdanynt yn cynnwys:
Dyma lle gellir cywasgu'r nerf ganol (median nerve) sy'n rhedeg trwy ganol yr arddwrn yn y sianel gul a ffurfir gan yr arddwrn. Gall profion dargludiad nerfau helpu i brofi presenoldeb cywasgiad twnel y carpws ac i raddio ei ddifrifoldeb o ysgafn iawn i eithafol o ddifrifol. Gall hyn helpu i dargedu'r driniaeth briodol.
Dyma lle mae nerf y penelin (neu nerf elinol), sy’n rhoi teimlad i'r bys bach a hanner y bys modrwy, yn dod yn llidiog (irritated) wrth iddo basio o gwmpas y penelin. Dyma'r nerf sy'n boenus pan fyddwn yn taro asgwrn y benelin (funny bone). Gall nodi niwropatheg nerf y benelin arwain at driniaeth sy'n amrywio o fesurau cadwrol (conservative) i ddiogelu'r nerf, fel bod yn ofalus i beidio â rhoi gormod o bwysau ar y nerf, i lawdriniaethau i ddiogelu'r nerf (datgywasgu neu drawsddodiad (transposition)). Gall astudiaethau dargludedd nerfau helpu i wahaniaethu rhwng niwropatheg nerf y benelin yn y benelin oddi wrth niwropatheg nerf y benelin yn yr arddwrn, sy'n llai cyffredin.
Dyma lle mae'r nerfwreiddiau'n dod yn llidiog wrth iddynt adael rhigol (canal) yr asgwrn cefn, gan amlaf gan ddisgiau’r asgwrn cefn sydd wedi symud a threulio. Gall profion dargludiad nerfau ac EMG helpu i ddangos bod symptomau nerfol yn yr aelodau (limbs) o ganlyniad i radiciwlopathegau gan arwain atgyfeirwyr at brosesu delweddu penodol fel MRI o'r asgwrn cefn.
Mae polyniwropatheg ymylol yn broses sy'n effeithio ar swyddogaeth llawer o'r nerfau ymylol. Mae nifer o wahanol ffurfiau ac achosion, gan gynnwys lefelau B12 isel, diabetes, defnydd uchel o alcohol, a heintiau fel HIV. Mae gan nifer sylweddol o bobl polyniwropathegau genetig, ac er bod llawer yn cael diagnosis yn eu plentyndod, mae dal achosion yn cael eu darganfod mewn oedolion. Mewn llawer o achosion, ni chaiff yr union reswm ei ganfod.
Cyflwr sy’n effeithio ar fwy nag un nerf, nad ydynt wedi’u cysylltu â'i gilydd. Gall gael ei achosi gan bibellau gwaed llidiog (fasgwlitis). Mae’n gyflwr hynod anghyffredin, ond mae'n bwysig ei nodi’n gynnar gan fod modd ei drin a gall triniaeth gynnar leihau anabledd.
Hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Anterior Horn Cell Disease’, mae hwn yn glefyd lle mae’r nerfau motor, sy’n rhoi gwybod i’r cyhyrau pryd i symud, yn dirywio. Mae’n glefyd dirywiol. Gall EMG helpu i roi diagnosis o’r cyflwr hwn, er mwyn helpu i’w reoli.
