Gwasanaeth iechyd hormonau menywod a menopos preifat
Wrth i fenyw agosáu at y menopos, mae newidiadau yn ei hormonau yn aml yn arwain at amrywiaeth o symptomau a all effeithio ar fywyd bob dydd. Mae'r rhain yn amrywio o berson i berson, ond gallant gynnwys ymennydd niwlog, cwsg gwael, pyliau o wres, meigrynau, blinder, newidiadau hwyliau, pryder, poenau cymalau, a newidiadau croen.
Yn ein clinig menopos newydd, rydym ni’n cynnig gofal sympathetig, dan arweiniad arbenigwr i fynd i’r afael â’ch symptomau ac i roi’r grym i chi fod yn feistr ar eich menopos a ffynnu eto. Dan arweiniad yr Ymarferydd Cyffredinol a’r Arbenigwr Menopos profiadol Dr Lucy Mather, mae ein gwasanaeth yma i ateb eich cwestiynau ac i ddarparu gofal a chyngor dibynadwy, cyfoes a seiliedig ar dystiolaeth ym mhob agwedd ar iechyd hormonau a rheoli menopos.
Gan fod menopos pob menyw yn wahanol, bydd eich ymgynghoriad yn archwilio eich symptomau a'ch anghenion unigol. Bydd Dr Lucy Mather yn gweithio gyda chi i lunio cynllun gofal personol, a all gynnwys canllawiau ar ffordd o fyw, triniaeth hormonau, ac opsiynau eraill wedi'u teilwra i optimeiddio eich iechyd a'ch lles, a gyda'ch caniatâd, gallwn rannu hwn trwy lythyr gyda'ch ymarferydd cyffredinol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'ch gofal os oes angen.
Ein gwasanaethau
- Perimenopos
- Menopos
- Menopos cynnar (POI)
- Iechyd fylfol
- Cyngor atgenhedlu
- Cyngor testosteron
- Meddygaeth ataliol a chyngor ar ffordd o fyw
- Mesurau rheoli/cyngor ar y menopos ar ôl triniaeth canser.
Iechyd Hormonau Menywod a Menopos Apwyntiad WYNEB YN WYNEB NEWYDD (£295)
Iechyd Hormonau Menywod a Menopos APWYNTIAD RHITHIOL NEWYDD (£295)
Iechyd Hormonau Menywod APWYNTIAD DILYNOL (£195). Nodwch p’un a ydych yn dymuno apwyntiad wyneb yn wyneb neu rithiol ar y ffurflen archebu.
Iechyd Hormonau Menywod a Menopos YMGYNGHORIAD FFÔN CYCHWYNNOL (dim cost).
Dr Lucy Mather
BMedSci, MBChB, DTMH, MRCPCh, DFFP, MRCGP
Mae Dr Lucy Mather yn ymarferydd cyffredinol ac yn feddyg sy’n arbenigo mewn iechyd menywod, wedi’i chofrestru â Chymdeithas Menopos Prydain, ac yn aelod o’r Gymdeithas Menopos Rhyngwladol a’r Gyfadran Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol a Meddygaeth Ffordd o Fyw.
A hithau’n ymarferydd cyffredinol am bron i 20 mlynedd, mae gan Lucy amrywiaeth eang o brofiad a chymwysterau mewn Iechyd Menywod, Iechyd Plant ac Iechyd Meddwl. Mae hi wedi cwblhau ei hyfforddiant gyda Chymdeithas Menopos Prydain ac yn dilyn canllawiau a amlinellir gan y Gymdeithas. Mae’n angerddol dros ymarfer gofal iechyd holistaidd, gan roi’r grym i fenywod fod yn feistr ar eu menopos a ffynnu.
Yn flaenorol, mae hi wedi arwain ar ddatblygu a gweithredu rhaglenni wedi'u seilio ar dystiolaeth i wella'r ymateb gofal iechyd i drais seiliedig ar ryw ac wedi arwain hyfforddiant ar Iechyd Meddwl Amenedigol i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol.
Pan nad yw'n gweld cleifion, mae Lucy yn Arfarnu ymarferwyr cyffredinol, yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus a safon ymarfer ymarferwyr cyffredinol, ac yn Ddarlithydd Clinigol yn Ysgol Feddygol Manceinion.
Geirdaon gan rai o gleifion benywaidd Dr Lucy Mather yn y Clinig Menopos.
“Meddyg gwych. Wedi tawelu fy meddwl. Dwi wedi cael fy mywyd nôl.”
“Fe wnes i wir fwynhau siarad gyda Dr Lucy. Mae hi’n wybodus ac yn gyfeillgar iawn, ac rwy’n teimlo’n hyderus yn ei chyngor a’i gofal.”
“Yr ymgynghoriad gorau a mwyaf cynhwysfawr i mi ei gael hyd yma siŵr o fod.”
