Pennant Private Medical Services

Anesthetig Lleol, Fasectomi Heb Sgalpel

Hafan > Gwasanaethau > Anesthetig Lleol, Fasectomi Heb Sgalpel

Mae Fasectomi yn llawdriniaeth syml a chyflym i ddarparu dull atal cenhedlu parhaol ar gyfer dynion.

Mae’r broses yn golygu torri a selio’r tiwb sy'n cludo sberm o'r ceilliau (y Vas Deferens), sy’n golygu na all sberm basio trwodd ac arwain at feichiogrwydd. Fel arfer, caiff hyn ei wneud dan anesthetig lleol sy'n cynnwys pigiad bach a thoriad bach yn y croen ar y sgrotwm - dull y cyfeirir ato fel Fasectomi Heb Sgalpel. Weithiau, nid yw hyn yn bosibl ac mae angen defnyddio anesthetig cyffredinol. Fel arfer mae’n cymryd wythnos i ddwy i adfer yn llawn. Fodd bynnag, caiff fasectomi llwyddiannus ei gadarnhau ar ôl 16 wythnos pan gynhelir prawf i ddadansoddi’r semen. Mae'n bwysig defnyddio dulliau atal cenhedlu eraill tan i'r prawf hwn gael ei gwblhau.

Mae fasectomi yn addas i unrhyw ddyn sy'n teimlo nad yw eisiau unrhyw blant neu ragor o blant. Dylid ystyried nad oes modd dadwneud y weithdrefn, gan fod dadwneud fasectomi yn anodd ac mae’r cyfraddau llwyddiant yn isel.

Os hoffech ystyried Fasectomi, cysylltwch â Gwasanaethau Meddygol Preifat Pennant am ymgynghoriad a gwerthusiad am ddim, heb unrhyw rwymedigaeth.